@rhysw @falkowata Diolch, Rhys. Dwi yn awyddus i fwy o oedolion ddarllen y gyfres, felly amdani!
• Awdur/Author: Chwedlau'r Copa Coch; Seren a Sbarc; Sgrech y Creigiau
• Addasydd/Translator: Y Bwystfil a'r Betsan (The Beast and the Bethany)
• Sgriptiwr/Scriptwriter: Cynefin; Arfordir Cymru
• Isdeitlydd/Subtitler: Cyfatebol
Bangor lad ffantasiol ac arswydus, bellach ym Mhontypridd.
Fantasy and horror-obsessed Bangor lad, settled in Pontypridd.
@rhysw @falkowata Diolch, Rhys. Dwi yn awyddus i fwy o oedolion ddarllen y gyfres, felly amdani!
Hei, pwy sy isio nofel arswyd #Cymraeg newydd gen i FIS NESA?
Ar drip gwersylla yng Nghwm Darran, bydd cyfrinachau’n cael eu datgelu, hen ffrindiau’n troi’n elynion, a hunllefau o berfeddion llên gwerin Cymru yn dod yn fyw.
Fel rhan o gyfres Stori Sydyn, fe ddylai apelio at ddarllenwyr o bob math a gallu – unrhyw un sy wedi gwirioni ar ddarllen Stephen King efo tortsh dan y dillad gwely.
Drychwch arno fo yn ei holl ogoniant sbwci!
https://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781800995017&tsid=3
Os fyddwch chi yn yr #eisteddfod ym Moduan flwyddyn yma, ella welwch chi fwy na derwyddon a Dona Diredi yn crwydro'r lle...
Mae #yrhogynpren yn gynhyrchiad byr i bob oed dwi 'di ei sgwennu i #theatrgenedlaetholcymru, yn dod â phypedwaith byw a rhai o actorion gorau Prydain i'r Maes.
Ges i weld Yr Hogyn Pren wrth ei waith ddoe. Rhwng chi a fi, dwi erioed wedi gweld tîm mwy talentog yn fy mywyd, nac wedi teimlo cymaint o groen gŵydd mewn chwarter awr. Mae hwn yn sbeshal. #cymraeg
@rhysw Diolch o galon. Mae'n meddwl lot, coeliwch fi. Mi wna i roi gwybod i Huw bod o'n achosi ambell i hunllef - fydd o'n chuffed!
Ges i'r pleser o ymuno â @boimoel ar #BBC #RadioCymru wythnos dwytha' i glebran am fwganod Cymreig o bob lliw a llun, wrth drafod fy llyfr newydd am #lêngwerin #ysbrydion #Cymru - The #Folklore of #Wales: #Ghosts 👻
Y sgwrs yn ei gyfanrwydd yma 👇
Dwi'n gwybod mai nid dyma'r lle i werthu pethau, ond mae fy nofel newydd 'Lladron y Deyrnas Goll' yn taro siopau wythnos yma. Dyma'r pedwerydd llyfr yn y gyfres #ffantasi epig Chwedlau'r Copa Coch. Dwi mor prowd o'r gyfres, ac o'r un yma'n enwedig. Bwystfilod Lovecraftaidd, cestyll Gothig, a mecha-siwtiau anferth. Ond yn Gymraeg.
My new #welsh language #fantasy novel is published this week. You might not understand a word, but it's worth it for Huw Aaron's illustrations alone, don't you think?
Y meddyg sy’n mwynhau hen hanesion arswydus
“Mae’r tŷ bellach yn llawn hen geriach gwreiddiol dw i wedi bod yn casglu ers i ni symud yma, bron na fysa ni’n gallu agor amgueddfa ein hunan!” #CylchgrawnGolwg #portread
#Cyflwyniad / an #introduction:
Awdur #ffantasi ac #arswyd sydd hefyd yn dablo mewn #isdeitlo a #sgriptio.
Hogyn #Bangor yn wreiddiol, boi #Pontypridd bellach.
Disgwyliwch fwydro #Cymraeg: #llyfrau, #cŵn, #bwydfigan a #Springsteen. Uffar o frand.
/
#Fantasy and #horror #author who also dabbles in #subtitling and #scriptwriting.
A #Bangor lad, now in #Pontypridd.
Expect nonsense about #books, #dogs, #veganfood and #Springsteen, mainly in #Welsh. What a brand.