@nic Ers talwm, mi gerddes i'r daith cwm Sirhowy. Mi wnes i gerdded tua deg milltir bob dydd yn un cyfeiriad a dychwelyd ar y bws. Roedd fy nain a thaid yn bwy yn Markham - roedd o'n glöwr yn y pwll glo Markham.
Mae'r planhigion yn ein gardd ni'n edrych yn well ar ôl y glaw. Dan ni wedi colli rhai onhonyn nhw yn tywydd sych. Yn anffodus, mae'r gwybed wedi cyrraedd efo'r tywydd gwlyb. Mae gen i ddigon o "Smidge" ar hyn o bryd 😀.
Dan ni angen glaw. Mae'r pridd yn yr ardd yn sych iawn a dw i'n meddwl dan ni'n mynd i golli planhigion. Dw i'n clywed taranau, ella dan ni'n mynd i gael glaw heno.
Mae'r hadau (neu had?) dant y llew yn hedfan o gwmpas y tŷ fel eira!
Dw i wedi cael mwy o broblemau efo fy nghyfeiriad e-bost. Mi wnes i drio agor cyfrif efo AJ Bell, ond mi ddudon nhw bod y cyfeiriad .wales yn anghywir. Mi wnes i drio gwneud rhywbeth efo'r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol a mi ges i yr un canlyniad. Be' ydy'r broblem - mae .wales dros deng mlwydd oed rwan!
Mi fyddwn ni'n chwarae “Tales from the Loop” ddydd Sul efo ffrindiau. Mi fydda i'n defnyddio'r dirgelwch o bocs cychwynydd.
Dw i wedi prynu'r fersiwn Pwyleg achos mae'r cyfieithwyr Pwyleg wedi adio mwy o wybodaeth yno: maen nhw wedi ysgrifennu am Dolen newydd yng Ngwlad Pwyl, yn Rembertów.
Dw i'n gobeithio bod pawb yn mynd i hoffi chwarae'r gêm 'ma.
Mae gynnon ni llyffantod yn ein gardd ni. Ella bydd mwy o lyffantod yn y dyfodol!
Dw i wedi adeiladu bin compost mawr. Mi wnes i ddefnyddio planciau o blastig du wedi'i ailgylchu. Yn anffodus, maen nhw'n drud iawn. Mi es i'r ffatri i gasglu nhw - dim yn rhy bell. Mi wnes i ddefnyddio sgriwiau dur gwrthstaen, ond os dw i'n mynd i adeiladu un eto mi faswn i ddefnyddio bolltau.
Unwaith eto, mae hi'n ddiflas heddiw. Mae hi'n oer, yn gymylog ac yn dywyll. Dan ni 'di gwneud mwy o waith ar y ffensys ddoe, er gwaethaf y tywydd. Rôn i'n brysur y bore 'ma efo'r wers Gymraeg. Rwan, dw i'n gwneud gwaith papur yn y tŷ. Yfory, dan ni'n mynd i orffen y ffensys, gobeithio.
Roedd hi'n oer ddoe, ond dan ni wedi gweud mwy o waith ar y ffensys. Dan ni wedi gorffen tua thraean o'r gwaith. Mae hi'n bwrw glaw mân heddiw, felly dw i'n gweithio yn y tŷ - dw i ddim isio gweithio efo llif drydan pan mae hi'n wlyb.
Dw i ddim yn dallt be' sy'n digwydd. Heddiw, mi ffonies i'r trydanwr. Mi ddôth o yn y prynhawn. Ar ôl y plymer ddoe dw i mewn llewyg. Dw i ddim yn disgwyl pobl i ddŵad yn gyflym. Fel arfer, rhaid i chi aros am fisoedd!
Dw i'n credu yn gwyrthiau.
Roedd gynnon ni broblemau efo'r gawod drydan. Mi ffonies i'r plymer ddoe, a mi ddôth o yn y prynhawn i weld y gwaith. Mi ddôth o yn ôl heddiw i ffitio cawod newydd.
Gwyrth yn wir!
Roedd hi'n braf ddoe, felly dw i 'di gwneud gwaith yn yr ardd. Mae hi'n cymylog heddiw a dydy'r rhagolygon y tywydd ddim yn dda. Dw i'n mynd i aros yn y tŷ. Mae gen i ddigon o waith papur i wneud.
Yn anffodus, doedd gen i ddim haggis. Dw i wedi meddwl am brynu haggis o Crombies yng Nghaeredin, ond dw i 'di anghofio. Y flwyddyn nesaf, ella. Rhaid i mi ysgrifennu nodyn yn fy nyddiadur!
Mae hi'n oer ond heulog heddiw. Rhaid i mi fynd i'r feddygfa y bore 'ma. Dan ni'n mynd am dro yn y prynhawn. Rhaid i mi fynd â fy nghamera, mae'r mynyddoedd yn edrych yn bert.
Mi gerddes i adra ar ôl dosbarth Pilates neithiwr. Pryd dudodd y lywodraeth does dim cyfyngiad cyflymder ar ôl machlud yr haul? Roedd y ffordd fel rhedfa rasio.
Mae'r Tylwythen Coffi wedi ymweld. Amser i dechrau'r dydd. Cyntaf - yfed y coffi.
Unwaith eto, mae hi'n gymylog a diflas. Roedd gen i ddosbarth Cymraeg (ar-lein) y bore 'ma. Mi ffoniodd yr dyn o gwmni gwaith coedwigaeth, mi ddôn nhw yfory i weld y dderwen mi gollon ni yn y tywydd stormus. Mi ddôth y dynion heddiw i symud y sgaffald. Dan ni'n aros i glywed oddi wrth y trydanwr (fel arfer). Dan ni'n brysur!
Heddiw, roedd rhaid i ni siarad efo Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol. Roedd hi'n anodd iawn i ddeall y ddynes oherwydd roedd hi'n siarad yn rhy gyflwm. Dw i'n gael y broblem 'ma yn aml pan dw i'n siarad efo "call-centres". Mi ddylen nhw dysgu y bobl i siarad yn araf.
#dysgucymraeg
#dysgu
#ymarfer
#CynilionABuddsoddiadauCenedlaethol